Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Ionawr 2022
Amser:
09.00 -
09.16
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Jane Dodds AS Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiad a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:
Dydd Mercher
Fformat y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y rhan fwyaf o'r Pwyllgor Busnes y dylai'r Cyfarfod Llawn barhau i gael ei gynnal yn rhithwir yn ystod yr wythnos yn cychwyn 24 Ionawr a dychwelyd i gyfarfodydd hybrid o 1 Chwefror os caiff y gofyniad i weithio gartref ei ddileu, fel y disgwylir, cyn hynny.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 25 Ionawr 2022 -
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gaffael (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Cyllid Hosbisau (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Cofio'r Holocost (45 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019/22 (45 munud)
Dydd Mawrth 1 Chwefror 2022 -
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio Cronfa newydd Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Archwilio diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol (45 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+ (45 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru ac Ewrop – rheoli perthynas newydd (45 munud)
·
Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau
Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2022 (5 15
munud)
·
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol
(Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael
â’r UE) 2021 (5 10 munud)
· Dadl: Adroddiad Effaith Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (60 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 9 Chwefror 2022 -
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 26 Ionawr:
NNDM7880 James Evans
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y cymerwyd 101 miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018/19, o'i gymharu â 129 miliwn yn 2004/05.
2. Yn nodi ymhellach nad oes gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu fan.
3. Yn cydnabod bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i atal pobl rhag teimlo'n unig ac ynysig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu cyllid hirdymor cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella gwasanaethau bysiau gwledig;
b) sicrhau bod cynghorau gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol;
c) gwarantu bod Strategaeth Fysiau Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru;
d) blaenoriaethu buddsoddi mewn cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn achosi allyriadau mewn ardaloedd gwledig.
Cefnogwyr:
Rhys ab Owen
Mabon ap Gwynfor
Natasha Asghar
Samuel Kurtz
Jack Sargeant
Carolyn Thomas
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 16 Chwefror:
NNDM7881
Rhys ab Owen
Jane Dodds
Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ac yn galluogi cynghorau i gael gwared ar system y cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr;
b) y defnyddir system fwy cyfrannol mewn etholiadau lleol yn yr Alban, gan leihau nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth, a sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorau newydd a etholir ym mis Mai 2022 i sicrhau bod dull mwy cynrychioliadol a system genedlaethol unffurf yn cael eu defnyddio i ethol cynghorwyr ledled Cymru erbyn 2027.
Cefnogwyr
Rhun ap Iorwerth
Heledd Fychan
Peredur Owen Griffiths
Mabon ap Gwynfor
Sioned Williams
4 Pwyllgorau
4.1 Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Ofcom
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i'w ystyried a rhoi sylwadau arno. Gofynnwyd i swyddogion gysylltu â Llywodraeth Cymru am yr amserlen ar gyfer y gwaith hwn.
5 Amserlen y Pwyllgorau
5.1 Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o amserlen y pwyllgorau
Nododd y Pwyllgor Busnes y papur.
5.2 Ceisiadau pwyllgorau am gyfarfodydd ychwanegol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gyfarfod ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ddydd Iau 17 Chwefror. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd ar ddau gyfarfod ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor Cyllid ddydd Gwener 11 Mawrth a dydd Gwener 28 Mawrth.